Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-06-12 : 12 Mawrth 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

CLA101 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 22 Chwefror 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 27 Chwefror 2012.

Yn dod i rym ar: 28 Chwefror 2012

 

CLA103 - Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed: 23 Chwefror 2012.

Fe’i gosodwyd: 28 Chwefror 2012.

Yn dod i rym ar: 21 Mawrth 2012

 

CLA104 - Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012 (Saesneg yn Unig)

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed: 29 Chwefror 2012.

Fe’i gosodwyd: 2 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

CLA107 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol)(Diwygio)(Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 4 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 6 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar:1 Ebrill 2012

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

CLA103 - Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi.

Fe’i gosodwyd ar: heb ei nodi.

Yn dod i rym ar: 21 Mawrth 2012

 

CLA108 - Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’i gwnaed: heb ei nodi.

Fe’i gosodwyd: heb ei nodi.

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2012

 

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan reol Sefydlog 21.2 na 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

CLA105 - Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar: 28 Chwefror 2012.

Fe’i gosodwyd ar: 2 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 26 Mawrth 2012

 

CLA106 - Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 28 Chwefror 2012.

Fe’u gosodwyd gerbron y Senedd ar:5 Mawrth 2012

Fe’u gosodwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar: 5 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2012

 

CLA109 - Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 4 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 6 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar: 31 Mawrth 2012

 

CLA110 - Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar: 6 Mawrth 2012.

Fe’i gosodwyd ar: 6 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar:  27 Mawrth 2012

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

Dim

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiadau hyn o dan Reol Sefydlog 21.2 a Rheol Sefydlog 21.3 ar yr offerynnau statudol hyn, sydd wedi’u hatodi fel Atodiadau 1 - 4.

 

Busnes Arall

 

Gohebiaeth y Pwyllgor

 

Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Gaffael Cyhoeddus

 

Nododd y Pwyllgor ymateb Cadeirydd Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin ( (Mr William Cash AS), dyddiedig 29 Chwefror 2012 i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 23 Chwefror 2012 yn mynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch yr agwedd sybsidiaredd ar y corff goruchwylio cenedlaethol (Erthygl 84.1 o’r Gyfarwyddeb ddrafft). Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Pwyllgor wedi cynnal trafodaeth ar 29 Chwefror 2012 ynghylch cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE ac ystyriaethau sybsidiaredd, gan gynnwys y llythyr a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chytunodd ar farn resymegol ddrafft sy’n dyfynnu’n uniongyrchol o’r cyflwyniad hwnnw ac yn ei gynnwys yn llawn fel atodiad. Nodwyd hefyd fod y farn resymegol wedi cael ei chymeradwyo wedyn gan Dŷ’r Cyffredin yn dilyn dadl ar 6 Mawrth, a’i chyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd.

 

Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, a gyflwynwyd gan Kay Powell,  Cyfreithiwr a Chynghorydd Polisi’r Gymdeithas; Michael Imperato o Gyfreithwyr NewLaw a Richard Owen, Dirprwy Bennaeth Ysgol y Gyfraith, Cyfrifeg a Chyllid, Prifysgol Morgannwg, ac mae’r ddau ohonynt hefyd yn aelodau o Bwyllgor Cymru y Gymdeithas. Cytunodd Cymdeithas y Cyfreithwyr i ddarparu ystadegau ychwanegol o drosglwyddiadau rhwng awdurdodaethau o dan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig.

 

Penderfyniad i Gwrdd yn Breifat

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd  y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn yn yr ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

12 Mawrth 2012


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-06-12

CLA105

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012

 

Gweithdrefn:   Negyddol

 

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, yn diddymu adran 28 o Ddeddf Gwella’r Fenni 1954 (gan gynnwys i’r graddau y mae adran 26 o’r Ddeddf honno’n cael effaith mewn perthynas ag adran 28) oherwydd nad yw’r adran honno’n berthnasol nac yn angenrheidiol bellach ac fe’i disodlwyd i raddau helaeth gan Ddeddf Bwyd 1984. 

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn/offeryn drafft hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 2.13(ii) (ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad), gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.  

 

Rhoddodd adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 y pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu Deddfau lleol (neu ddarpariaethau penodol ohonynt) lle yr ymddangosir eu bod yn ddarfodedig, yn amherthnasol neu’n ddianghenraid neu eu bod wedi’u disodli i raddau helaeth [gan ddeddfwriaeth arall sy’n ymdrin â’r un pwnc]. 

Trosglwyddwyd y pŵer ir Cynulliad Cenedlaethol drwy’r Gorchymyn, the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (Saesneg yn unig), a bellach feu trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio, cyn belled ag y gellir cadarnhau hynny, ers trosglwyddo’r pŵer ym 1999 a’i drosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru. Yn sgîl hynny, gwahoddir y Cynulliad i roi ystyriaeth arbennig i’r Gorchymyn hwn o dan Reol Sefydlog 21(3)(ii).

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

12 Mawrth 2012

 


Atodiad 2

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-06-12)

 

CLA106

 

Teitl: The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) Regulations 2012 (Saesneg yn unig)

 

Mae’r offeryn yn diwygio’r Rheoliadau, the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010 (“Rheoliadau 2010”). Mae’r diwygiadau yn gwneud yr hyn a ganlyn:

 

•        lleihau gofynion rheoliadol ar gyfer y rhai sy’n gweithio gweithfeydd treulio anaerobig penodol neu offer symudol ac ar gyfer y rhai sy’n llosgi tanwydd sy’n deillio o wastraff nad yw bellach yn wastraff;

•        ei gwneud yn haws i drosglwyddo trwyddedau mewn sefyllfaoedd penodol;

•        darparu ar gyfer ymddiried trwydded amgylcheddol mewn cynrychiolydd personol gweithredwr a fu farw;

•        gwneud newidiadau cymharol fach i weithrediadau gwastraff penodol sydd wedi’u heithrio;

•        gwneud mân newidiadau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau sylweddau ymbelydrol;

•        gwneud mân newidiadau i’r Rheoliadau, the Environmental Damage (Prevention and Remediation) Regulations 2009 (Saesneg yn unig), a’r Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 i egluro safbwynt gorfodi Asiantaeth yr Amgylchedd; a

•        gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2010 ac i ddeddfwriaeth arall.

 

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:-

 

1.       Ni chafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud yn ddwyieithog, heblaw am Reoliad 19, sy’n gwneud mân newidiadau yn y ddwy iaith i Reoliadau Cymru yn unig.

 

[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

12 Mawrth 2012

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2012

 

"Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o’r darpariaethau yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 O.S. 2010/675 er mwyn:

·         lleihau’r gofynion rheoleiddiol i’r rheini sy’n gweithredu gosodiadau neu beiriannau symudol penodol ar gyfer treulio anaerobig ac i’r rheini sy’n llosgi tanwydd sy’n dod o wastraff sydd wedi peidio â bod yn wastraff;

·         ei gwneud yn haws i drosglwyddo trwyddedau mewn sefyllfaoedd penodol;

·         darparu ar gyfer breinio trwydded amgylcheddol yng nghynrychiolydd personol gweithredydd ymadawedig;

·         gwneud mân newidiadau i weithrediadau gwastraff penodol;

·         gwneud mân ddiwygiadau sy’n ymwneud â gweithgareddau sylweddau ymbelydrol;

·         gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) 2009 a Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) i wneud sefyllfa orfodi Asiantaeth yr Amgylchedd yn eglur; a

·         gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2010 ac i ddeddfiadau eraill

 

Mae’r drefn Drwyddedu Amgylcheddol yn symleiddio rhannau gweithdrefnol clwstwr o ddeddfwriaeth dechnegol iawn a chymhleth iawn. Mae wedi galluogi symleiddio’r system drwyddedu y gweithredir ynddi ac y mae diwydiant a rheoleiddwyr yn ei harfer, heb gyfaddawdu safonau amgylcheddol neu iechyd dynol mewn unrhyw fodd. Mae hyn wedi symleiddio’r cymhlethdod yr oedd diwydiant a rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ei wynebu o’r blaen ac yr oedd taer angen amdano.

Mae sicrhau’r newidiadau hyn drwy offerynnau cyfansawdd sy’n cael eu gwneud ynghyd â’r Ysgrifennydd Gwladol yn gyson â’r nod o symleiddio y cyfeirir ato uchod. Mae’r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleiafu’r anghyfleustra ar dryswch posibl i’r rheini y mae’r Rheoliadau’n effeithio arnynt, yn arbennig gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd (sy’n rheoleiddiwr) yn gorff trawsffiniol.

 

Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chan Senedd y Deyrnas Unedig. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na’i wneud, yn ddwyieithog."

 

 


Atodiad 3

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-06-12)

 

CLA109

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012

 

Gweithdrefn:  Gadarnhaol 

 

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), yn unol â rheoliadau, i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin i gyngor y sir neu fwrdeistref sirol ac i bob cyngor cymuned (a gynhelir fel rheol ar yr un pryd bob pedair blynedd) yn ardal yr awdurdod lleol.

 

Rhaid i awdurdod lleol gynnal yr arolwg drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac i ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi ymgeisio am gael eu hethol yn gynghorwyr yn ardal yr awdurdod lleol.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cwestiynau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu gofyn wrth gynnal arolwg etholiad lleol. Mae'r cwestiynau rhagnodedig a’r ffurf y caniateir eu gofyn ynddi wedi eu dangos yn yr Atodlen i'r Rheoliadau.

 

Craffu technegol

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Craffu ar rinweddau

 

Nodwyd y pwynt canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn -

 

Mae llawer o’r wybodaeth sydd i’w gasglu gan yr arolwg hwn yn ddata sensitif personol o fewn yr ystyr a roddir i’r term hwnnw gan adran 2 o Ddeddf Diogelu Data 1998.  Er bod y Mesur yn darparu ar gyfer bod yn anhysbys, gall y nifer fechan o ymgeiswyr ar gyfer rhai awdurdodau ei gwneud yn gymharol rwydd i adnabod y rhai sydd â chyfuniad penodol o nodweddion (oedran, rhywedd, crefydd ayb).  Mae ffurf yr holiadur felly’n cynnwys troednodyn sy’n tynnu sylw at y ddarpariaeth yn adran 1 o’r Mesur nad oes dyletswydd i gwblhau’r arolwg.

 

[Rh.S. 21.3(ii)       ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad]

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

12 Mawrth 2012


Atodiad 4

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-06-12)

 

CLA110

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Teitl:  Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012. Mae hefyd yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2013 yn lle 2012.

 

Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i Gyngor Sir Ynys Môn wedi ei estyn gan un flwyddyn. Mae cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr cymuned presennol a etholwyd i gynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn hefyd wedi ei estyn felly gan un flwyddyn.

 

Craffu technegol

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Craffu ar rinweddau

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn -

 

1.       Effaith y Gorchymyn hwn yw gohirio am flwyddyn yr etholiadau yn Ynys Môn.  Er hynny, mae’r ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r gallu i wneud y Gorchymyn hwn yn pennu mai’r weithdrefn negyddol sy’n gymwys.

 

2.       Caiff y Gorchymyn hefyd yr effaith o roi Ynys Môn ar gylch etholiadol gwahanol i weddill siroedd Cymru.  Tynnir sylw’n arbennig felly at baragraff terfynol rhan 4 o’r Memorandwm Esboniadol.

 

[Rh.S. 21.3(ii)       ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad]

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

12 Mawrth 2012